O Arglwydd Dduw bywha dy waith

(Gweddi am Adfywiad Crefydd) / (Llwydiant ar y Gwaith)
O Arglwydd Dduw, bywha dy waith
Dros holl derfynau'r ddaear faith;
  Dros dir a môr dysgleiria maes
  Yn nerth dy rad anfeidrol ras.

Helaetha dy frenhiniaeth, Ior,
O wlad i wlad, o fôr i fôr;
  Pereiddia'r halogedig fyd
  Trwy'th nefol ras
      a'th gariad drud.

Mae'r seithfed dydd, a'r seithfed awr,
Yn agosâu ar Babel fawr;
  O Arglwydd, brysia, rhwyga'r llen,
  Boed Seion bur trwy'r byd yn ben.
1,3: Benjamin Francis 1734-1799
2 : cyf. John Hughes 1776-1843
- - - - -
(Llwyddiant yr efengyl)
1,2,(3).
O Arglwydd Dduw, bywha dy waith,
Trwy holl derfynau daear faith:
  Tros dir a mor, dysgleiria 'maes,
  Yn nerth dy anorchfygol ras.

Mae Babilon yn crynu'n wir,
Mae'n rhwym o gwympo cyn bo hir;
  O Arglwydd, brysia, rhwyga'r llen,
  Boed Sion bur trwy'r byd yn ben.

Mae 'r seithfed dydd a'r seithfed awr,
Yn agosâu ar Babel fawr;
  Fe syrth ei muriau bob yr un,
  O flaen efengyl Mab y Dyn.
gwympo :: syrthio
- - - - -
("Bywhâ dy waith.")
O Arglwydd Dduw, bywhâ dy waith,
Trwy holl derfynau'r ddaear faith;
  Tros dir a môr dysgleiried gras,
  Gan lwyr orchfygu pechod cas.

Eglwysi hardd fel gwinwydd îr,
Flaguro'n dêg drwy'r gogledd dir;
  A theyrnas Crist
      trwy'r deheu cras,
  Flodeuo ar led fel Eden lâs.

Clodfored pob creadur byw,
Yr unig ddoeth anfarwol Dduw;
  Gwna'r ddaear hon yn ddelw gu,
  O'r nefoedd ogoneddus fry.
Benjamin Francis 1734-1799

Tonau [MH 8888]:
Angel's Hymn (Orlando Gibbons 1583-1625)
  Beddington (<1835)
Boston (Lowell Mason 1792-1872)
Brynmenai (Das Leiden des Herrn) (alaw Ellmynig)
Cromer (J A Lloyd 1815-74)
Cwmystwyth (Lucis Creator) (alaw eglwysig)
Emyn Foreuol (Thomas Tallis c.1505-88)
Eden (Lowell Mason 1792-1872)
Erfurt (Martin Luther 1483-1546)
Ernan (Lowell Mason 1792-1872)
Lancaster (<1869)
Leipsic (J H Schein 1586-1630)
Ombersley (W H Gladstone 1840-92)
Rockingham (Edward Miller 1735-1807)

gwelir: Mae Babilon yn crynu'n wir

(Prayer for the Revival of Religion) / (Success on the Work)
O Lord God, revive thy work
Over all the ends of the wide earth;
  Over land and sea shines out
  Strongly thy free, immeasurable grace.

Widen thy kingship, Lord,
From land to land, from sea to sea;
  Sweeten the defiled world
  Through thy heavenly grace
      and thy costly love.

The seventh day, and the seventh hour,
Are drawing near upon great Babel;
  O Lord, hurry, tear the curtain,
  Let pure Zion be through the world as head.
 
 
- - - - -
(The success of the gospel)
 
O Lord God, revive thy work,
Through all the ends of the wide earth:
  Over land and sea, shines out,
  Strongly thy unconquerable grace.

Babylon is truly trembling,
It is bound to fall before long;
  O Lord, hurry, tear the curtain,
  Let pure Zion be through the world as head.

The seventh day and the seventh hour,
Are drawing near upon great Babel;
  It's walls are falling every one,
  Before the gospel of the Son of Man.
::
- - - - -
("Revive thy work.")
O Lord God, revive thy work,
Throughout all the ends of the vast earth;
  Over land and sea may grace shine,
  Completely overcoming detestable sin.

May beautiful churches like a fresh vine,
Shoot fairly through the northern land;
  And may the kingdom of Christ
      through the parched south,
  Flourish abroad like green Eden.

Let every living creature praise
The only wise immortal God;
  Make this earth a dear image,
  O'r the glorious heavens above.
tr. 2008,19 Richard B Gillion
 





Carry on Thy victory,
Spread Thy rule from sea to sea;
  Rescue all Thy ransomed race,
  Save us, save us,
      Lord, by grace.





Charles Wesley 1707-88

from:
Come divine Emmanuel come

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~